Nod yr Ymgyrch Ailgylchu Bwyd yw helpu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yng Nghymru i ddysgu am sut gellir troi gwastraff bwyd yn ynni i bweru eu cartrefi, eu hysgolion a’r gymuned leol. Mae’n darparu gweithgareddau ac adnoddau am ddim i athrawon ysgol gynradd, yn ymwneud â mathemateg, gwyddoniaeth, ABaCh ac ADCDF. Gellir eu defnyddio fel rhan o’ch tystiolaeth Eco-Sgolion hefyd.